Menyw yn gwisgo siwmper binc a het oren yn cymryd rhan yn un o'r gweithgareddau dringo creigiau a gynigir gan Gower Adventures.

Am

Mae Gower Adventures yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau antur awyr agored cyffrous o gwmpas Penrhyn Gŵyr. Rydym yn darparu diwrnodau allan difyr i deuluoedd, cyplau a grwpiau o ffrindiau. Mae croeso i bob gallu.

Mae Gower Adventures yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau antur awyr agored cyffrous o gwmpas Penrhyn Gŵyr. Rydym yn darparu diwrnodau allan difyr i deuluoedd, cyplau a grwpiau o ffrindiau. Mae croeso i bob gallu. Rhowch gynnig ar antur gaiacio ar y môr o Fae Oxwich! Cyfle gwych i weld arfordir enwog Gŵyr o olygfa wahanol! Gallwch archwilio'r rhannau mwyaf anghysbell o'r arfordir neu aros yn y baeau cysgodol. Cewch deimlo distrych y don ar eich croen a chael hwyl yn y tonnau gyda'n hanturiaethau corff-fyrddio yn nhraeth Caswell!

Gallwch gymryd rhan mewn gweithgarwch dringo ym Mae y Tri Chlogwyn, un o'r lleoliadau dringo gorau a mwyaf golygfaol yn y DU! Mae cerdded ceunentydd yn  dod yn un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn ne Cymru. Mae'r gweithgarwch hwn yn cynnwys cerdded, dringo, neidio o ben rhaeadrau a nofio. Gallwch gael antur am ddiwrnod gydag atgofion a fydd yn para oes!

Pris a Awgrymir

Math o DocynPris Tocyn
Caiacio wrth eistedd ar ben caiac - 2 oedolyn, 2 blentyn£230.00 gweithgarwch
Caiacio wrth eistedd ar ben caiac - 2 oedolyn, 3 phlentyn£270.00 gweithgarwch
Dringo ac Ogofa 2 oedolyn, 2 blentyn£200.00 gweithgarwch
Dringo ac Ogofa: 2 oedolyn, 3 phlentyn£237.00 gweithgarwch
Grwpiau - pris y person£60.00 gweithgarwch

Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwyr

  • Lefel profiad - dechreuwr

Cyfleusterau Hamdden

  • Cyfleusterau chwaraeon dw^r

Nodweddion Darparwr

  • Arfordirol

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran) - 6

Map a Chyfarwyddiadau

Gower Adventures

Canolfan Gweithagrwch/Diddordebau Awyr Agored

Pencaerfenni Lane, Crofty, Swansea, SA4 3SD

Ffôn: 01792 851182

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolAccredited Practitioner of  the Institute for Outdoor Learning Accredited Practitioner of the Institute for Outdoor Learning 2021
  • Rhanbarthol ac AmrywiolAwdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA)

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Gwyliau CyhoeddusAgor
Diwrnodau agor 2024 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Gwyliau CyhoeddusAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder