Am
Yma yn Gower Brewery, rydym wedi bod yn bragu cyrfau bendigedig yng nghanol Bro Gŵyr ers 2011. Gan fod Penrhyn Gŵyr wedi'i enwi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain, rydym yn bragu cyrfau rhagorol yn barhaol, cyrfau sy'n adlewyrchu godidowgrwydd y dirwedd o'n cwmpas.
Ydych chi erioed wedi blasu ein prif gwrw Gower Gold? Neu ein cwrw abv isel, Gower Zero?
Fel un o'r bragdai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, mae gan ein prif fragwr dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn sicrhau cysondeb a rhagoriaeth ar draws ein hamrediad o gynnyrch arobryn fel y gallwch fwynhau blas cyfarwydd a phoblogaidd Gŵyr. Rydym yn bragu cyrfau sy'n naturiol ragorol ac yn potelu blas atgofion - nid oes un ymweliad â Gŵyr yn gyflawn heb fwynhau un o'n diodydd gyda golygfa dda.
Rydym yn cynnig amrediad eang o gwrw mewn casgenni, barilanau, barilanau bach a photeli y gellir eu prynu mewn tafarndai a siopau drwy dde Cymru i gyd neu gallwch alw heibio i'n gweld ni yn siop y bragdy. Mae ein gwasanaethau dosbarthu’r diwrnod canlynol yn eich galluogi i ail-fyw eich hoff atgofion o'ch amser yng Ngŵyr.
Yma yn Gower Brewery, rydym wedi bod yn bragu cyrfau bendigedig yng nghanol Bro Gŵyr ers 2011. Gan fod Penrhyn Gŵyr wedi'i enwi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain, rydym yn bragu cyrfau rhagorol yn barhaol, cyrfau sy'n adlewyrchu godidowgrwydd y dirwedd o'n cwmpas.
Cyfleusterau
Arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Siop - Open Monday - Friday, 10am - 4pm
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle