Am
Mae Anturiaethau Arfordir Gŵyr yn cynnig teithiau tywys rhyngweithiol ar gwch gyda golygfeydd trawiadol o arfordir De Gŵyr, gan sicrhau bod ein teithwyr yn gadael gydag atgofion bythgofiadwy.
Dan arweiniad criw cymwys a phroffesiynol â gwybodaeth leol wych, byddwch yn dod ar draws cyfoeth o fywyd gwyllt morol, hanes lleol cyfareddol - o ogofâu esgyrn cynhanes i straeon am smyglwyr, ynghyd â gwefr unigryw wrth i ni wibio ar draws y dŵr agored.
Bro Gŵyr oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, ac mae'r arfordir yn cynnig llawer o gyfleoedd i oedi a gwerthfawrogi'r golygfeydd godidog. Mae taith yn un o gychod Anturiaethau Arfordir Gŵyr yn cynnig rhywbeth i bawb, p'un a ydych am sgwrsio, tynnu lluniau, gwylio adar a morloi yn eu cynefin naturiol neu aros i edmygu'r olygfa a ysbrydolodd Dylan Thomas.
Taith 2 awr mewn cwch o Fae Oxwich i Ben Pyrod:
Cewch brofi bywyd gwyllt gwych ar ein cylchdaith o fae hardd Oxwich i Ben Pyrod, yr ynys lanwol ar ben gorllewinol penrhyn Gŵyr.
Byddwn yn aros yn agos i'r morlin ar hyd y daith, gan edmygu golygfeydd trawiadol yr ardal o safbwynt unigryw. Cewch wrando ar straeon am ogofeydd hanesyddol a chuddfannau smyglwyr. Cadwch lygad am lamidyddion a welir yn rheolaidd a'r dolffiniaid chwareus ymhlith y mulfrain sy'n plymio i'r môr.
Mae ein cwch, y ‘Sea Serpent’, yn RIB 10 metr a adeiladwyd at y diben. Mae ganddo beiriant diesel tyrbo morol 315 hp â gyriant jetiau dŵr, sy'n fwy diogel i fywyd gwyllt morol ac yn galluogi teithwyr i fynd arno o ddŵr bas.
Mae ein teithiau'n addas i blant 3 oed ac yn hŷn. Mae'n rhaid cadw lle ymlaen llaw, gallwch wirio argaeledd a gwneud trefniadau ar-lein drwy fynd ar ein gwefan, neu gallwch ein ffonio.
Mae Gower Coast Adventures yn darparu teithiau rhyngweithiol trawiadol o gwmpas arfordir penrhyn Gŵyr a'i gyfoeth o fywyd gwyllt, o fae hardd Oxwich i Ben Pyrod.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Llogi cwch cyfan - taith 2 awr ar gwch ar gyfer hyd at 12 person. | £540.00 gweithgarwch |
Tocyn i blentyn - taith 2 awr ar gwch (3-15 oed). | £30.00 gweithgarwch |
Tocyn i oedolyn - taith 2 awr ar gwch. | £54.00 gweithgarwch |
Ar gyfer plant 3 oed neu'n hŷn a rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Bwyty
- Caffi
Cyfleusterau Darparwyr
- Siop - Food and Drink Shop
- Toiledau - Toilets located nearby/ in car park.
Cyfleusterau Hamdden
- Cyfleusterau chwaraeon dw^r
Dulliau Talu
- Derbynnir Visa
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran) - Minimum age of 3
Suitability
- Teuluoedd