Am
Yr LC yw prif Barc Dŵr a Chyfadeilad Hamdden Cymru, a'r atyniad mwyaf poblogaidd y mae'n rhaid talu i'w ddefnyddio yng Nghymru.
Mae parc dŵr mwyaf Cymru dan yr unto ; wal ddringo 30 tr, ardal chwarae 4 llawr â thema lan môr, neuadd chwaraeon ddwbl amlbwrpas, campfa fwyaf Cymru; y Sba@LC moethus ac efelychwr syrffio dan do cyntaf erioed Cymru - y Boardrider.
PARC DŴR
Gan gynnwys rhwydwaith cyffrous o byllau, reidiau a sleidiau, mae Parc Dŵr yr LC yn gartref i'r pwll tonnau poblogaidd a'r Masterblaster, sleid enwog yn null rheilffordd droellog sy'n saethu pobl ar gylch rwber i fyny ar ffrwd dŵr ac yna'n eu gadael i rym disgyrchiant!
Gallwch hefyd sleifio heibio'r seirff sy'n saethu dŵr i'r pwll tonnau a cherdded drwy wal o ddŵr i ddod o hyd i sleid mewn llosgfynydd! Mae afon ddiog y parc dŵr yn caniatáu i chi ymlacio wrth i'r cerrynt eich cludo i'r pwll tonnau, ac mae'r pwll rhyngweithiol yn berffaith i blant iau ynghyd â sleid fach, bwcedi dymchwel a ffynhonnau.
Ac mae mwy o sleidiau i'w cael gyda hyn i gyd hefyd! Mae'r sleid ddŵr a'r tiwb dŵr yn siŵr o gyffroi, ynghyd â'r trobwll a morlyn yr LC! Ac ni ddylid anghofio'r Boardrider - y cyntaf o'i fath yng Nghymru! Reid unigryw, ar don ddi-derfyn yr LC, sy'n sicr o fod yn wahanol i unrhyw beth rydych wedi'i brofi o'r blaen! Mae'r reid yng nghanol parc dŵr yr LC a gall pobl ddewis corff-fyrddio neu fentro ar syrffio go iawn. Bydd hyfforddwyr yn eich helpu i ddatblygu eich techneg a'ch cydbwysedd wrth i chi brofi gwefr y don ar yr un pryd – nid yw'r reid byth yr un peth yr eildro!
DRINGO
Mae gan ein wal ddringo 30 tr dros 20 llwybr gwahanol ar gyfer pob lefel o arbenigedd. Hefyd mae ein system belaio awtomatig newydd yn golygu y gallwch ddringo heb help (er y byddwn yno o hyd i gynnig help llaw!). Os ydych yn newydd i ddringo neu'n brofiadol, gallwn eich helpu i gyrraedd y brig, felly galwch heibio'r LC!
CHWARAE
Bydd ardal chwarae ryngweithiol yr LC sydd newydd ei hehangu yn difyrru'r plantos am oriau! Gyda chyfarpar synhwyraidd unigryw sy'n creu effeithiau arbennig, gall plant archwilio creaduriaid y dyfnderoedd heb wlychu hyd yn oed! Bydd y tŵr chwarae 4 llawr yn mynd â phlant trwy ddrysfa ddyfrllyd o sleidiau, pontydd a phyllau peli! Mae Chwarae'n berffaith i bob oed, yn enwedig plant iau nad ydynt yn ddigon tal ar gyfer ein sleidiau dŵr a'n wal ddringo!
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Cyfleusterau cynadledda
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Atyniad Dim Smygu
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael