Marchnad Abertawe ardal seddi.

Am

Dewch i ymweld â Marchnad Abertawe, marchnad dan do fwyaf Cymru, am brofiad siopa na fyddwch chi byth yn ei anghofio!

Yng nghanol y ddinas am dros 50 o flynyddoedd, cewch groeso gan fasnachwyr sydd wedi bod yn gweini pobl Abertawe am genedlaethau.

Mae bwyd lleol hyfryd wastad wedi bod yn rhan annatod o boblogrwydd y farchnad ac mae masnachwyr yn dal i gyrraedd wrth iddi wawrio bob dydd gyda'r cynnyrch mwyaf ffres. Mae'r amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael yn adlewyrchu'r amrywiaeth o gwsmeriaid sydd gennym ac yn dangos sut mae'r farchnad wedi datblygu dros y blynyddoedd er mwyn cadw at newid mewn blas ac anghenion.

Mae dros 100 o stondinau'n cynnig popeth o gynnyrch lleol ffres ac anrhegion Cymreig traddodiadol i emwaith hardd, rygiau o safon ac estyniadau gwallt. Dewch i flasu rhai o'n cocos, ein bara lawr a'n cawsiau Cymreig gwych. Ac , wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad yn gyflawn heb bice ar y maen twym a ffres o'r maen.

Crwydrwch o gwmpas, mwynhewch fywiogrwydd marchnad traddodiadol a darganfyddwch yr hyn sydd ar gael. Yna, cymerwch saib ac ymdrochwch yn awyrgylch un o'n caffis neu'n siopau coffi.

Yn ogystal â chael ei hadnabod am ei hamrywiaeth a'i hansawdd heb eu hail, mae Marchnad Abertawe'n parhau i chwarae rôl bwysig ym mywydau pobl Abertawe ac mae ganddi ysbryd cymunedol gwych. Drwy gydol y flwyddyn mae'r farchnad hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau megis arddangosfeydd celf, diwrnodau hwyl i'r teulu a gweithdai coginio i blant, sydd wastad yn boblogaidd.

Gyda phedair mynedfa wedi'u lleoli'n gyfleus o gwmpas canol y ddinas ac ychydig funudau o'r orsaf fysus, mae'n hawdd dod o hyd i ni. Gallwch gael mynediad i'r farchnad drwy Stryd Rhydychen, Stryd yr Undeb, Whitewalls neu Ganolfan Siopa'r Cwadrant.

Mae toiledau i gwsmeriaid ym Marchnad Abertawe, gan gynnwys uned gwbl hygyrch. Mae pob uned yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cyfleusterau golchi dwylo a newid babanod. Mae cyfleuster 'Changing Places' ar gyfer y rheini ag anghenion gofal difrifol. Gellir defnyddio’r cyfleusterau hyn am ddim ac fe'u cynhelir gan staff y farchnad.

Am brofiad siopau cwbl unigryw, dewch i ymweld â Marchnad Abertawe. Mae croeso cynnes i chi!

Cyfleusterau

Arall

  • Café on premises

Arlwyo

  • Caffi/bwyty ar y safle

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Hygyrchedd

  • Ramp / Mynedfa Wastad
  • Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Dan Do
  • Atyniad Dim Smygu
  • Mewn tref/canol dinas

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus

Map a Chyfarwyddiadau

Marchnad Abertawe

Marchnad

Swansea Market, Whitehalls, Swansea, SA1 3PQ

Ffôn: 01792 654296

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sadwrn08:00 - 17:00
Dydd SulWedi cau
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder