Am
Marina Abertawe, lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r môr.
Mae Marina Abertawe'n cynnig angorfeydd i ymwelwyr am gyn lleied â diwrnod i gyhyd â mis. Mae angorfeydd tymhorol ar gael hefyd, gyda thelerau contract 3, 4, 5 a 6 mis.
Mae Marina Abertawe yn Ardal Forol arobryn dinas Abertawe. Ymylir arnom ar un ochr gan draeth tywodlyd Bae Abertawe. Mae cyffro canol y ddinas, gyda'r holl amwynderau y bydd eu hangen arnoch, daith gerdded fer yn unig i ffwrdd.
Mae ymweld â Marina Abertawe'n golygu y byddwch yn gallu cyrraedd penrhyn Gŵyr yn hawdd. Penrhyn Gŵyr oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, a cheir sawl bae hardd yno lle gallwch angori ac ymlacio.
Mae'r cysylltiadau cludiant yn wych - rydym tua 10 munud mewn car o C42 yr M4. Mae'r gorsafoedd bws a thrên o fewn pellter cerdded hawdd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch ein staff gwybodus a chymwynasgar. Ni waeth pa mor hir rydych am aros, edrychwn ymlaen at eich croesawu i Abertawe cyn bo hir!
Cyfleusterau
Arall
- Café on premises
- Croesewir Beicwyr
- Croesewir Cerddwyr
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
- Parcio (codir tâl)
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau