Am
Nod Pier y Mwmbwls yw cynnig y diwrnod perffaith i'r teulu ni waeth beth fo'r tywydd! Adeiladwyd Pier y Mwmbwls yn gyntaf ym 1898 ac ers hynny mae wedi bod yn un o nodweddion mwyaf diffiniol Bae Abertawe. Mae'r safle'n cynnwys arcêd ddifyrion, Beach Hut Café, bwyty Copperfish a nifer o atyniadau eraill, gan gynnwys ale fowlio fini, llyn cychod môr-ladron ac un o dirnodau rhyfeddaf Abertawe, The Big Apple.
Os yw'n heulog, beth am brynu Mr Whippy o'r parlwr hufen iâ, codi bwced a rhaw o'r siop anrhegion a threulio'r diwrnod ar draeth y pier. Gyda thraeth amgaeëdig â thywod euraid, digonedd o byllau trai a golygfa wych dros Oleudy'r Mwmbwls, dyma'r lle perffaith i wersylla a mwynhau'r diwrnod! Fodd bynnag, peidiwch â phoeni os yw'n bwrw'n drwm, mae llawer o'n cyfleusterau dan do. Felly, dewch i gael pysgod a sglodion gyda phys slwtsh, anadlu awyr y môr a mwynhau gwres yr arcêd ddifyrion.
Ceir mwy o wybodaeth, gan gynnwys calendr digwyddiadau'r haf, pecynnau parti a chynigion drwy fynd i www.mumbles-pier.co.uk.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael