National Trust Rhosili

Am

Mae bae hyfryd Rhosili, gyda'i draeth tywodlyd tair milltir o hyd, yng nghysgod yr Hen Reithordy, bwthyn gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch weld olion llong Helvetia, a ddrylliwyd ym 1887, ar y traeth yn ystod llanw isel. O frig Rhos Rhosili, pwynt uchaf penrhyn Gŵyr, gallwch fwynhau golygfeydd o'r penrhyn yn ogystal â'r môr hyd at Orllewin Cymru, Ynys Wair a gogledd arfordir Dyfnaint.

O siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili gallwch gerdded ar lwybr gwastad ar hyd y clogwyn glaswelltog i hen Wylfa Gwylwyr y Glannau. Pan fo'r môr ar drai, gall cerddwyr anturus groesi'r sarn caregog i ynys llanw Pen Pyrod lle gallwch weld morloi glas yn ymlacio ar y cerrig isod. Lluniwyd tirwedd penrhyn Gŵyr gan waith fferm ers Oes y Cerrig. Mae the Vile yn Rhosili yn enghraifft o system rhesi caeau agored ganoloesol. Gyda nifer o nodweddion archaeolegol yn Rhosili ac ar hyd arfordir de Gŵyr, gan gynnwys siambrau claddu Neolithig, carneddau o'r Oes Efydd ac amddiffynfeydd yr Oes Haearn, mae'n le perffaith i ddarganfod gweddillion ein hynafiaid.

Gall ein tîm cyfeillgar yn y siop eich helpu i wneud yn fawr o'ch diwrnod trwy eich cyfeirio at y teithiau cerdded gorau, golygfannau a gwybodaeth am ein bywyd gwyllt lleol.

Gofynnwch i gymryd rhan yn ein rhestr o 50 o bethau i'w mwynhau fel teulu neu rhowch gynnig ar gêm o chwarae cuddio geogelcio sy'n addas i'r holl deulu. Sicrhewch eich bod chi'n mynd i'r siop a'r ganolfan ymwelwyr i wneud y defnydd gorau o'ch diwrnod a mwynhau'r ardal arbennig iawn hon.

Cyfleusterau

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Parcio ar y safle

Map a Chyfarwyddiadau

National Trust Rhosili and South Gower Coast

Llwybr Natur

Rhosili, Swansea, SA3 1PR

Ffôn: 01792 390812

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2015 Tystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2015 2015
  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2017 Tystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2017 2017
  • Swansea Bay Tourism AwardsEnillydd Gwobr Twristiaeth Bae Abertawe 2017 Enillydd Gwobr Twristiaeth Bae Abertawe 2017 2017
  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2016 Tystysgrif Rhagoriaeth Tripadvisor 2016 2016

Amseroedd Agor

Tymor (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder