Am
Wedi’i ysbrydoli gan y rhaglen deledu boblogaidd ar ITV, gallwch ddringo, cydbwyso, neidio a siglo’ch ffordd ar draws rhwystrau gwahanol gan ddefnyddio’ch sgiliau Ninja – a chofiwch roi cynnig ar y wal heriol enwog! Mae Ninja Warrior UK Abertawe'n le gwych ar gyfer gweithgareddau i deuluoedd ac ar gyfer cadw'n heini, ac mae'n aros i chi!
Gwthiwch eich sgiliau ninja i'r eithaf yn Ninja Warrior UK Abertawe! Gyda dau gwrs rhwystrau, cwrs rhwystrau gydag offer chwyddadwy enfawr a'r wal enwog. Gallwch redeg, neidio, bownsio a sboncian fel ninja go iawn.
Mae Ninja Warrior UK yn addas i blant 4+ oed ac mae'n ffordd wych o gadw plant (ac oedolion) yn actif! Unwaith rydych wedi meistroli'r cyrsiau, ymunwch â ni yn ein caffi i fwynhau diod flasus a bwyd cynnes ac oer. Mae rhywbeth at ddant bawb!
Gallwch hefyd drefnu parti pen-blwydd arbennig ar gyfer eich plentyn, gydag amser ar y cyrsiau ninja, danteithion blasus a defnydd personol o ystafell barti ninja, felly mae pawb yn sicr o gael amser gwych!
Y gweithgaredd perffaith ar gyfer plant ac oedolion a gallwch drefnu eich sesiwn ar-lein heddiw!
Cyfleusterau
Arall
- Café on premises
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Marchnadoedd Targed
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Plant
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael