Am
Stiwdio waith mewn pentref hardd ger Bae'r Tri Chlogwyn. Gallwch weld paentiadau gwreiddiol mewn oriel gyfagos neu siarad ag artist wrth ei îsl.
Mae North Wind, sydd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded o Fae hardd y Tri Chlogwyn ac sy'n agos at Glwb Golff Pennard, yn stiwdio a man arddangos unigryw Rowan Huntley, artist proffesiynol, ers 25 o flynyddoedd.
Mae'r stiwdio waith hyfryd hon, sydd mewn gardd bert ym mhentref tawel Pennard, mewn lleoliad delfrydol i'w mwynhau ar y cyd â theithiau cerdded iachusol ar hyd Clogwyni Pennard, chwarae golff neu gael coffi a theisen yn Siop Goffi Bae'r Tri Chlogwyn.
Yn North Wind, mae croeso i ymwelwyr bori dros baentiau gwreiddio heb neb i darfu arnynt yn yr oriel neu gallant fwynhau sgwrs yn y stiwdio am ddeunyddiau celf ac anturiaethau os dymunant. Cynhelir yr oriel unigryw hon gan artist unigol felly y gellir ymweld â hi drwy drefnu ymlaen llaw yn unig, er mwyn gallu paentio yn y stiwdio a gwneud gwaith maes; fodd bynnag, mae croeso cynnes yma i chi. Os hoffech alw heibio, ffoniwch ymlaen llaw ar 07761 233 733 neu e-bostiwch rowan@rowanhuntley.co.uk.
Mae ysbrydoliaeth Rown, sy'n dod yn gyfan gwbl o'r amgylchedd naturiol, yn amlwg yn ei phaentiadau o draethau tywodlyd eang, moroedd stormus ac arfordir creigiog penrhyn Gŵyr. Mae ei phaentiadau cynrychioliadol yn portreadu tir bregus a garw, awyr atgofus a'r ffordd hardd, fyrhoedlog y mae'r golau a'r cysgod yn ymddangos ar y dirwedd.
Hefyd wedi'u harddangos y mae astudiaethau a phaentiadau o fynyddoedd a rhewlifoedd o'i theithiau i'r Alpau, yr Ynys Las ac Antartica. Mae Rowan yn Aelod o'r Alpine Club a hi oedd y person cyntaf i gael gwobr Preswylfa Artist gan Sefydliad Ymchwil Cyfeillion Scott Polar ar y cyd â'r Llynges Frenhinol. Roedd y lleoliad hwn yn 2010 yn cynnwys mordaith hir ar long HMS Scott ar ei thaith gyntaf i Antartica. Trwy gyd-ddigwyddiad, mae HMS Scott yn gysylltiedig ag Abertawe a chroesawyd Rowan ar y llong yn ystod ei hymweliad olaf i Ddoc y Brenin yma ym mis Mai 2013.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle