Am
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe yng nghanol y ddinas yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol, ac yn oriel o'r radd flaenaf i Gymru.
Mae’r Oriel yn fan celf bywiog ac ysbrydoledig am ddim i bawb sy'n darparu lle ar gyfer arddangosfeydd celf hanesyddol, fodern a chyfoes, sgyrsiau, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw, perfformiadau a digwyddiadau yng nghanol ardal artistig brysur Abertawe.
Mae gan yr Oriel (a sefydlwyd ym 1911) gasgliad sylweddol sy'n cynnwys sbectrwm eang o'r celfyddydau gweledol, o hen feistri i artistiaid cyfoes, gyda chasgliad rhyngwladol o borslen a llestri Abertawe.
Mae ein rhaglen gelfyddydol yn cynnwys arddangosfeydd, cydweithrediadau a phrosiectau cymdeithasol. Rydym yn cefnogi artistiaid lleol sefydledig a'r rheini sy'n dod i'r amlwg, yn ogystal â dod â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw'r byd i Gymru - gan gyflwyno arddangosiadau mawr a chomisiynu gwaith eithriadol sy'n benodol i'r safle neu'n ymgysylltu â'r gymuned.
Mae gennym gasgliad gwych o gelfweithiau a cherameg, yn ogystal â gweithiau ar bapur, sy'n ffurfio rhan bwysig o "gof diwylliannol" y ddinas. Rydym yn arddangos nifer o'r gweithiau hyn yn ein casgliad parhaol ond rydym hefyd yn annog artistiaid, curaduron ac aelodau o'r cyhoedd i guradu arddangosfeydd.
Cred y Glynn Vivian yw y gall 'celf newid eich bywyd', a chan ddwyn ysbrydoliaeth o'n harddangosfeydd a'n casgliadau, mae ein horiel yn llawn cyfleoedd i ddysgu, darganfod, gwneud a chael hwyl.
Dan arweiniad ein tîm dysgu a'n hartistiaid arobryn, gallwch ymuno yn ein gweithgareddau a'n gweithdai, gan gynnwys paentio, darlunio, animeiddiad, gwnïo, paentio a mwy! Rydym hefyd yn cynnig hwyl i deuluoedd yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau ysgol, a ffilmiau i deuluoedd. Gallwch gydio mewn copi am ddim o'n llwybr gweithgareddau i'ch arwain o amgylch yr orielau, neu beth am roi cynnig ar ein gweithgareddau hunanarweinidig i deuluoedd yn ystod eich ymweliad?
Rydym yn cynnal dosbarthiadau hygyrch wythnosol i bawb gan gynnwys plant a phobl ifanc, teuluoedd ac oedolion. Gweler ein rhaglen o sgyrsiau ag artistiaid, awduron a churaduron a ysbrydolwyd gan ein Harddangosiadau a'n Casgliadau.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn bartner i’r Tate ac mae'n cyfnewid rhaglenni, syniadau a sgiliau â rhwydwaith Plus Tate o sefydliadau celfyddydau gweledol ar draws y DU.
Mae croeso cynnes i bawb ac mae'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau am ddim. Gweler ein gwefan am y rhaglen lawn o ddigwyddiadau'r tymor hwn.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dim Smygu
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael