Am
Canolfan ragoriaeth yw Chwaraeon Dŵr Oxwich sy'n cynnig amrywiaeth llawn o weithgareddau a hyfforddiant chwaraeon dŵr i bob oed a lefel o brofiad.
Ni waeth p'un a ydych yn chwilio am ddiwrnod tawel i'r teulu yn yr awyr agored neu weithgareddau dŵr cyffrous megis mynd ar gychod pŵer, mae gennym rywbeth i chi. Mewn lleoliad delfrydol yng nghanol penrhyn Gŵyr, mae Chwaraeon Dŵr Oxwich yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer pawb, o'r mwyaf hamddenol i'r mwyaf anturus.
Rydym yma i sicrhau eich bod yn mwynhau eich hunain i'r eithaf!!
Mae croeso i chi ein ffonio i drafod unrhyw ofynion y gall fod gennych neu ofyn am fwy o wybodaeth.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi ar y traeth!
Criw Chwaraeon Dŵr Oxwich!
Cyfleusterau
Cyfleusterau Hamdden
- Gweithgareddau awyr agored