Am
Pa-pa Jewellery - Gemwaith o waith llaw sydd wedi'u dylunio a'u saernïo yng Ngŵyr - dewch i'n gweld am roddion a chelf wedi'u hysbrydoli gan y môr a'r traeth.
Yn Oriel Pa-pa byddwch yn gallu gweld a phrynu gemwaith aur ac arian unigryw sydd wedi'u dylunio a'u saernïo mewn stiwdio ar ymyl penrhyn Gŵyr, de Cymru gan Pa-pa, gof arian lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r dyluniadau yn y casgliad wedi'u hysbrydoli gan fywyd morol, y clogwyni garw a rhamantus, ardaloedd o dywod di-dor, ewyn aflonydd y don a llwybrau pennau bryniau traethau de Cymru.
Yn ogystal â'r gemwaith a ysbrydolir gan y môr, mae Oriel Pa-pa yn cynnig ystod amrywiol o roddion arfordirol, crochenwaith Gŵyr a thirluniau o'r ardal, celf batic, printiau o ardal Gŵyr a chelf cregyn ynghyd â cherfluniau broc môr Gŵyr, cardiau a ffotograffau wedi'u hysbrydoli gan benrhyn Gŵyr o waith llaw gan grefftwyr lleol.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn