Penllergare Valley Woods view of waterfalls

Am

Mae Ymddiriedolaeth Penllergaer wrthi'n adfer y baradwys Fictoraidd angof hon lle ceir llynnoedd, rhaeadrau, terasau, a golygfeydd panoramig.

Mae Coed Cwm Penllergaer yn dirwedd hardd wedi'i chuddio mewn cwm serth, dafliad carreg i ffwrdd o'r M4 yng ngogledd Abertawe ond eto'n fyd ar wahân iddo.

Gyda'i llynnoedd a’i rhaeadrau, terasau, golygfeydd panoramig a choed a llwyni egsotig, mae'r baradwys Fictoraidd hon yn cael ei hadfer a'i hadfywio'n ara' deg gan Ymddiriedolaeth Penllergaer.

Mae'r maes parcio a'r ganolfan ymwelwyr ychydig oddi ar C47 yr M4. Gall ymwelwyr fwynhau diod yn Siop Goffi'r Coetir, gyda golygfeydd o'r teras dros ein gerddi coetirol a thuag at y llyn uchaf. O'r fan yma, gall ymwelwyr fwynhau dros 12 km o lwybrau cerdded, gan gynnwys tro ar hyd yr hen rodfa gerbydau, a hefyd i lawr i ddyffryn Llan lle roedd y teulu Dillwyn Llewelyn, a fu'n byw ar yr ystâd yn y 19eg ganrif , wedi creu'r llyn uchaf a'r rhaeadr drawiadol. Mae llwybrau a thraciau'n arwain tuag i lawr, ochr yn ochr ag afon Llan wrth iddi ymdroelli tuag at Fforest-fach.

Mae'r coed yn llawn bywyd gwyllt; mae ambell las y dorlan i'w weld ar yr afon ac mae boncathod a barcutiaid coch yn ymwelwyr cyson. Efallai byddwch yn gweld ystlumod, cadnoid a dyfrgwn os ydych yn lwcus. Mae'r coed yn adnabyddus am eu rhododendronau - etifeddiaeth hel planhigion y teulu Dillwyn Llelwelyn. Mae'r rhain, ynghyd â charpedi o gennin pedr a chlychau'r gog gwyllt, yn olygfa boblogaidd yn y gwanwyn.

Mae Siop Goffi'r Coetir ar agor drwy gydol y flwyddyn diolch i'n tîm o wirfoddolwyr, ac mae'n cynnig ein brand unigryw ein hunain o goffi Penllergaer, wedi'i weini mewn arddull barista yn y ffordd yr hoffech chi ei gael.

Caiff yr holl elw o'r siop goffi a'r maes parcio ei ddefnyddio i'n helpu i barhau â gwaith adfer a chynnal Coed Cwm Penllergaer. Rydym yn elusen fach ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid gan y cyngor na'r llywodraeth i'n helpu i gadw Coed Cwm Penllergaer yn hygyrch i'n hymwelwyr a'r gymuned leol. Rydym yn dibynnu ar grantiau a rhoddion a'n tîm gwych o wirfoddolwyr.

Cyfleusterau

Arall

  • Croesewir Cerddwyr

Arlwyo

  • Caffi/bwyty ar y safle

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Dulliau Talu

  • Derbynnir Grwpiau
  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn
  • Lleoliad Coedwig

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Parcio ar y safle

Teithio a Masnachu

  • Wi-fi ar gael

Map a Chyfarwyddiadau

Penllergare Valley Woods

Gardd Tir Parc / Coetir

Penllergaer, Swansea, SA4 9GS

Ffôn: 01792 344 224

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2017 Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2017 2017
  • Rhanbarthol ac AmrywiolTystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2016 Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2016 2016
  • Rhanbarthol ac AmrywiolTwinkl - Prif Atyniad 2021 Twinkl - Prif Atyniad 2021 2021

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder