Am
Dysgwch sut i syrffio a phadlfyrddio gyda Progress Surf School. Prif ysgol syrffio 5 seren Gŵyr. Rydym yn darparu gwersi syrffio a phadlfyrddio i bob oed a gallu, lle byddwch yn dysgu'n ddiogel gyda'n tîm hynod gymwysedig ym Mae Caswell ac ar draeth Llangynydd.
Rydym yn addysgu syrffio i bob lefel a gallu. P'un a ydych am roi cynnig arni am y tro cyntaf neu'n datblygu eich sgiliau, rydym yn addasu ein gwersi fel eu bod yn addas i bob gallu.
Gyda'r cyfarpar gorau a grwpiau bach, cewch y profiad gwers syrffio gorau o'r dechrau i'r diwedd.Gallwch ddewis rhwng gwersi hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan neu gyrsiau sy’n para wythnos. Rydym yn cynnig gostyngiadau i deuluoedd a grwpiau. Gellir trefnu sesiynau i grwpiau mawr hefyd.
Mae pob aelod o'n staff yn hyfforddwyr syrffio'r ISA, yn achubwyr bywydau â chymhwyster SLSGB ac maent wedi'u gwirio gan y GDG.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Hamdden
- Gweithgareddau awyr agored
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Suitability
- Teuluoedd