Am
Dyma’r gweithgareddau gorau ar Benrhyn Gŵyr yn ôl TRIP ADVISOR. Diwrnodau antur o safon ar gyfer pob math o grwpiau.
Yma yn RIP N ROCK, rydym yn cynnig seibiannau a diwrnodau antur byr ar draws De Cymru.
Rydym yn defnyddio rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru ar gyfer ein gweithgareddau, o Fae godidog Rhosili a thraeth enwog Llangynydd ar gyfer syrffio i goedwig law Geltaidd Cymru yng ngwlad y sgydau, ar gyfer ceunanta a cherdded ceunentydd. Beth am ddringo’r Tri Chlogwyn (neu fannau cudd eraill) ar ein diwrnodau dringo creigiau neu beth am gynyddu curiad y galon gydag anturiaethau arfordiro ac abseilio ar Gŵyr. Dewch i rolio chwerthin gydag 8 i 10 person ar ein megaSUP a chyfuno hyn â gemau tîm ar y traeth, dewiswch chi!
Yn Rip n Rock, rydym yn darparu ar gyfer pob lefel gallu, drwy’r flwyddyn. Ni fyddwn yn cymysgu ein grwpiau teuluol â phartïon plu a cheirw a grwpiau corfforaethol a byddwn yn teilwra eich profiad ar eich cyfer chi. Busnes bach, teuluol ydym na fydd yn cyfaddawdu ar ansawdd eich profiad am niferoedd drwy ein drysau. Cysylltwch â ni a rhowch wybod yn union yr hyn rydych am ei gael o’ch profiad a byddwn yn ei wireddu.
Byddwn yn helpu i greu seibiant perffaith wedi’i deilwra ar eich cyfer chi, gyda dewis o fannau gwych i fwyta yn yr ardaloedd, o gaffis bach ar y traeth i fwytai o’r radd flaenaf. Ac ar gyfer eich llety, os ydych ar gyllideb dynn neu ag awydd gwario tipyn o arian … rydym yma i’ch helpu greu eich profiad delfrydol!
Cyfleusterau
Cyfleusterau Hamdden
- Gweithgareddau awyr agored
Plant a Babanod
- Croesewir plant
Suitability
- Partïon Batchelor
- Teuluoedd