Am
Mae RSPCA Llys Nini yn elusen hunan-ariannu leol sy'n achub ac yn ailgartrefu cannoedd o anifeiliaid bob blwyddyn. Mae ein safle 78 erw yn cynnig; Caffi, Parcio am ddim, Maes chwarae, Teithiau Cerdded, Drysfa a wi-fi am ddim.
Mae RSPCA Llys Nini ar agor drwy gydol y flwyddyn. Gellir gweld anifeiliaid i'w mabwysiadu drwy gydol yr wythnos - ewch i'n gwefan i weld yr oriau agor.
Mae'r tiroedd ar agor bob dydd. Mae gennym nifer o lwybrau a theithiau cerdded (rhai yn addas i gadair olwyn ac eraill ddim). Mae croeso i gŵn ar dennyn.
Mae maes chwarae antur yn seiliedig ar dreftadaeth i blant 4-12 oed a Chaffi NEWYDD SBON yn gwerthu bwyd poeth, diodydd a byrbrydau, gyda Wi-Fi am ddim.
Mae’r caffi wedi ei leoli yn Yr Ysgubor, lle mae gennym ystafelloedd digwyddiadau i llogi.
Mae diwrnodau gweithgaredd teuluol rheolaidd ac aml yn cael eu hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Mae Llys Nini hefyd yn fan gollwng rhoddion ac ailgylchu. Ni fyddem yn goroesi heb y rhoddion o ddillad ac eitemau annwyl i'n siopau.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Cyfleusterau Darparwr
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i Deuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Atyniad Dan Do
- Atyniad Dim Smygu
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael