Am
Yr unig ganolfan efelychu chwaraeon moduro yn Abertawe! Os ydych yn mwynhau rasio, dewch i roi cynnig arni yn SimRace1!
Os ydych yn dwlu ar gertio, diwrnodau ar y trac, chwaraeon moduro, efelychu rasio neu'n dwlu ar geir yn gyffredinol, rydych yn sicr o fwynhau'r profiadau rasio rydym yn eu cynnig hefyd.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau rasio i bobl o bob gallu Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar efelychu rasio o'r blaen, dim problem! Rydym bob amser wrth law i'ch arwain a'ch helpu.
Mae gennym 8 peiriant efelychu rasio o'r radd flaenaf sy'n gysylltiedig, felly gallwch rasio ar eich pen eich hun neu fel grŵp.
Mae pob un o'n peiriannau efelychu rasio yn cynnwys tair sgrîn lydan iawn felly bydd gennych olygfa 1.8 metr o'r hyn sydd o'ch cwmpas. Mae ein hoffer rasio yn cynnwys olwynion llywio â grym, a fydd yn darparu'r un lefelau o wrthwynebiad a dirgryniadau ag y byddech yn eu teimlo wrth rasio mewn car go iawn, a bydd ein brêcs realistig yn sicrhau eich bod chi'n cael profiad sydd mor agos â phosib at y peth go iawn. Bydd ein seddi rasio Sparco yn dirgrynu i efelychu'r teimlad o rasio ar y ffordd.
Mae ein lleoliad yn addas ar gyfer unigolion, grwpiau bach neu grwpiau mwy (hyd at 16 o bobl), partïon pen-blwydd a gweithgareddau adeiladu tîm corfforaethol.
Pris a Awgrymir
£12 per person per hour
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd