Stadiwm Bowls Dan Do Abertawe

Am

Mae stadiwm bowls dan do Abertawe'n cynnig chwe llain, oriel wylio fawr, caffi, bar ac ystafell achlysuron, yn ogystal â digon o fannau parcio am ddim.

Mae ein hystafell achlysuron yn gallu darparu ar gyfer rhwng 60 ac 80 o unigolion (60 ar gyfer pryd o fwyd ffurfiol/80 ar gyfer bwffe) ac mae bar yn cynnig digonedd o ddiodydd am bris rhesymol.
Yn ogystal â hyn, gall ein harlwywyr mewnol addasu eu bwydlenni at eich anghenion.
Mae'r stadiwm yn hollol hygyrch i bobl anabl ac mae'r brif lawnt, y toiledau a'r ardaloedd newid ar y llawr gwaelod.
Mae lifft ar gael i bobl anabl sy'n caniatáu mynediad at yr ystafell achlysuron sydd dim ond tri cham i fyny o'r lefel isaf.
Hefyd, mae bygi pwrpasol ar y safle ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer chwaraewyr bowls.

Cyfleusterau

Cyfleusterau Darparwr

  • Wifi ar gael

Hygyrchedd

  • Cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr anabl

Map a Chyfarwyddiadau

Stadiwm Bowls Dan Do Abertawe

Dan do

Beaufort Rd, Plasmarl, Swansea, SA6 8AX

Ffôn: 01792 771728

Amseroedd Agor

Tymor (1 Maw 2026 - 1 Maw 2027)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder