
Am
Mae The Gower Gin Company yn distyllu jin crefft arobryn ym Mhorth Einon yn seiliedig ar gynnyrch botanegol y gellir dod o hyd iddo yng Ngŵyr.
Lansiwyd jin GŴYR ym mis Hydref 2017 ar ôl blwyddyn o waith dwys i’w ddatblygu. Rydym bellach yn boblogaidd iawn yng Ngŵyr ac ar draws Cymru a'r DU. Mae ein potel unigryw â streipiau glas tywyll a gwyn, gydag ysgrifen gopr, yn denu sylw ar y silff. Mae jin GŴYR bellach wedi'i gynhyrchu yn ein micro-ddistyllfa ein hunain ym Mhorth Einon yn unig, a gellir dod o hyd iddo mewn siopau o safon, gwestai, bariau a bwytai.
Ethos ein cwmni yw creu jin crefft mewn sypiau bach yn seiliedig ar gynnyrch botanegol y gellir dod o hyd iddo ym mhenrhyn Gŵyr. Rydym hefyd yn eiriolwyr cryf dros ddefnyddio'r Gymraeg i hyrwyddo'n jin a'r diwydiant jin Cymreig. Dyna pam rydym yn un o nifer bach o gynhyrchwyr yn unig sy'n cynnig potel hollol ddwyieithog.
Gwnaethom ennill tair gwobr yn y diwydiant yn 2018, h.y. London Spirits Competition, cystadleuaeth San Francisco World Spirits a chystadleuaeth Great Taste The Guild of Fine Food. Yn ddiweddar rydym wedi lansio jin Pinwydd sydd wedi cael clod mawr ac rydym yn gweithio ar brosiectau newydd ar gyfer 2019.
GŴYR - Mae jin Gŵyr yn cael ei wneud gan ddefnyddio 8 cynnyrch botanegol a ddewiswyd yn arbennig, gan gynnwys ffenigl efydd a gwyrdd gwyllt a gasglwyd o dwyni arfordir de Gŵyr. Mae'r ffrondau ffenigl persawrus yn cael eu trochi mewn gwirod grawn pur, ynghyd â merywen, llysiau'r angel a chroen lemon a grawnffrwyth pinc er mwyn creu'r blas a’r arogl arbennig. Mae jin Gŵyr ar gael mewn 3 maint sef 70cl, 20cl a 5cl.
Jin sych Llundain a wnaed gan ddefnyddio blagur pinwydd o ogledd Gŵyr, oren, llugaeron a phupren binc yw Pinwydd. Fe'i rhyddhawyd ym mis Hydref 2017 ac mae'r botel, sy'n cynnwys llun pinwydd arian, eisoes yn boblogaidd iawn ymhlith blogwyr jin a'n cwsmeriaid.
Rydym yn frwd dros gydweithio â chwmnïau Cymreig gwych eraill ac rydym eisoes wedi datblygu sorbet jin Gŵyr a dŵr tonig grawnffrwyth pinc, cyffug jin Gŵyr a chanhwyllau botanegol jin Gŵyr.
Gallwn hefyd ddylunio a chynhyrchu 'jin unigryw' ar eich cyfer, fel y gallwch hyrwyddo'ch brand a'ch busnes.
Cyfleusterau
Arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Talebau rhodd
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad