The Sup Hut man woman and boy using paddle boards

Am

Drwy rannu ein gwybodaeth am arfordir hyfryd Gŵyr, rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu profi llonyddwch a phleser Padlo Bwrdd ar eich Traed ar hyd yr arfordir neu gyffro syrffio'ch ton gyntaf a bod yn yr awyr agored a mwynhau ymarfer corff.

PADLO BWRDD AR EICH TRAED
Mae padlo bwrdd ar eich traed yn gamp ddŵr hawdd, hygyrch ac amrywiol sy'n cynnig ffordd wych i bobl gael profi'r dŵr, er efallai na fyddwch yn gwlychu hyd yn oed!

Dyma un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd erioed ymhlith cyfranogwyr am y tro cyntaf!

Bydd eich sesiwn gyflwyno gyntaf yn dangos i chi sut i ddefnyddio'r offer (bwrdd a phadl) a sut gall y darnau hyn o offer gyflwyno camp hynod ddifyr sy'n gweithio ar eich techneg cydbwyso craidd ac yn caniatáu i chi archwilio'r arfordir neu'r dyfrffyrdd mewndirol.

O'r man hwn gallwn eich dysgu sut i syrffio neu efallai y byddwch am badlo o gwmpas penrhyn Gŵyr a gweld y golygfeydd cyfarwydd o bersbectif gwahanol ar antur arfordirol.

Rydym hefyd yn cynnig clinigau syrffio SUP penodol a gallwn frolio bod ein prif hyfforddwr wedi bod yn Bencampwr Prydain ddwywaith!

Bydd ein sesiynau hyfforddi ar gyfer rasys yn eich paratoi ar gyfer un o'n digwyddiadau 'Rasys Gŵyr' os ydych yn mwynhau bod yn gystadleuol.

RHENTU
Os ydych wedi padlo bwrdd ar eich traed o'r blaen, rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi rentu bwrdd padlo am awr neu am y diwrnod a gallwn awgrymu'r lleoedd gorau i badlo iddynt ar y diwrnod.

CLWB SUP
P'un a ydych yn lleol neu'n ymweld am gwpl o ddyddiau, galwch heibio a chymerwch ran yn un o'n sesiynau padlo clwb 'SUP' ar nos Fercher.
Mae profiad blaenorol yn hanfodol am ein bod yn bwriadu mynd â phadlwyr allan i leoliadau newydd a'u helpu i archwilio a gwella

Cyfleusterau

Arall

  • Café on premises

Cyfleusterau Darparwyr

  • Toiledau

Cyfleusterau Hamdden

  • Cyfleusterau chwaraeon dw^r
  • Gweithgareddau awyr agored
  • Gweithgareddau Dw^r

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Plant a Babanod

  • Croesewir plant

Map a Chyfarwyddiadau

The Sup Hut

Stand Up Paddle Boarding

Francis Street, Brynmill, Swansea, SA1 4NH

Ffôn: 01792 446511

Gwobrau

  • Rhanbarthol ac AmrywiolAwdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA)

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
DiwrnodAmseroedd
Dydd Llun - Dydd Sadwrn10:00 - 17:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder