Wales National Pool Swansea child and adult simming pools

Am

Yn dilyn y cyngor diweddar gan y llywodraeth, mae’r lleoliad hwn ar gau dros dro. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae'r rhain yn cynnwys lonydd nofio i nofwyr cymwys; nofio hamdden i'r rhai nad ydynt yn gallu nofio a theuluoedd; amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd dŵr, gan gynnwys acwa-ymarfer, acwa-lladin a'n sesiynau nofio poblogaidd ar gyfer y treiathlon, sef 4 Tri a Tristars iau; a chyrsiau nofio i ddysgwyr o bob oedran a gallu, gyda chyrsiau ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol.

Gan wybod y pwysau sydd ar gyllidebau teuluoedd, rydym yn cynnig tocynnau teulu (mynediad i hyd at 5 o bobl, sef 2 oedolyn a 3 phlentyn – mae cymarebau'n berthnasol) am £11.85 y gellir eu defnyddio yn ein sesiynau hamdden a sblasio a chwarae, gan gadw hwyl i deuluoedd yn fforddiadwy! Ar gyfer teuluoedd ifanc, mae ein sesiynau sblasio a chwarae yn y rhan 23m ar fore dydd Sul yn ffordd ddelfrydol i'ch plant ymgyfarwyddo â nofio, gyda'r pwyslais ar gael hwyl mewn amgylchedd diogel, gan fagu hyder a meithrin sgiliau wrth wneud hynny!

Gall eich pwll cenedlaethol gynnig rhywbeth at ddant pawb, ni waeth beth fo cynnydd eich taith i weithgareddau dŵr. P'un a ydych am gystadlu yn y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd yn y dyfodol neu rydych newydd ddechrau cael hwyl yn y dŵr, gallwn eich helpu i wireddu'r breuddwydion hynny ...

Os hoffech gael hwyl yn ystod eich ymweliad, beth am roi cynnig ar ein sesiynau sblasio a chwarae, dosbarth ffitrwydd neu gadw lle ar ein cyrsiau carlam i oedolion a phlant yn ystod gwyliau'r ysgol? Gallwch fod yn acwa-actif yn eich pwll cenedlaethol!

Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy fynd i www.walesnationalpoolswansea.co.uk
 

Cyfleusterau

Arall

  • Caffi ar y safle

Cyfleusterau Darparwr

  • Cyfleusterau cynadledda

Dulliau Talu

  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Hygyrchedd

  • Hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
  • Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i Deuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Dan Do
  • Atyniad Dim Smygu

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Parcio ar y safle

Map a Chyfarwyddiadau

Wales National Pool Swansea

Hamdden / Pwll Nofio

Sketty Lane, Sketty, Swansea, SA2 8QG

Ffôn: 01792 513 513

Amseroedd Agor

Diwrnodau agor 2025 (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)
Dydd Llun - Dydd SulAgor
Gwyliau CyhoeddusAgor
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder