Local artisans outside Y Siop, Penllergare Valley Woods

Am

Siop hyfryd yng Nghoed Cwm Penllergare sy'n arddangos crefftau Cymreig, gwneuthurwyr lleol, anrhegion wedi'u gwneud â llaw a chynnyrch wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth.

Dewch i ddarganfod Y Siop yng Nghoed Cwm Penllergare sy'n dathlu pobl dalentog leol, treftadaeth Gymreig a chrefftau traddodiadol.

Ym mis Hydref 2025, symudodd ein caffi i gartref newydd eang mewn lleoliad arall yng Nghoed Cwm Penllergare, gan roi'r cyfle i ni drawsnewid yr hen safle'n gyfleuster Y Siop – gofod croesawgar llawn anrhegion, crefftau a nwyddau a gynhyrchir yn lleol â llaw.

Mae'r Siop ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul, 11.00am–3.00pm, ac fe'i rheolir gan grefftwyr a gwneuthurwyr lleol, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ddarganfod rhywbeth arbennig wrth gefnogi pobl greadigol annibynnol.

Mae pob pryniant yn helpu i gefnogi'r gwaith adfer a chynnal a chadw yng nghoetir hanesyddol Penllergare, wrth hefyd gefnogi gwneuthurwyr lleol a'u crefftau.

Map a Chyfarwyddiadau

Y Siop, Penllergare Visitor Centre

Siop / Canolfan Siopa

Penllergare Valley Woods, Penllergaer, Swansea, SA4 9GS

Ffôn: 01792344224

Amseroedd Agor

Tymor (10 Awst 2026 - 31 Gorff 2037)
DiwrnodAmseroedd
Dydd LlunWedi cau
Dydd Mawrth - Dydd Sul11:00 - 15:00
Crimtan Placeholder
Crimtan Placeholder