Am
Ewch ar un o feiciau Prifysgol Abertawe a gallwch archwilio Abertawe a'r bae ar feic. Gwasanaeth llogi beiciau hunanwasanaeth, 24/7.
Darperir y beiciau gan Prifysgol Abertawe a chaiff y gwasanaeth ei weithredu gan y darparwr rhannu beiciau nextbike. Mae 6 gorsaf ar hyd Bae Abertawe.
*Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe
*Y Ganolfan Ddinesig
*Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
*Parcio a Theithio Ffordd Fabian
*Campws y Bae Prifysgol Abertawe
*Y Mwmbwls (glan môr ger Parc Southend)
Mae'r cyfleuster llogi beiciau hunanwasanaeth ar gael 24/7. Mae tair ffordd hawdd o logi sy'n golygu bod rhannu beiciau yn Abertawe'n gyfleus ac yn hygyrch:
1) Defnyddio'r ap
2) Talu ar eich ffôn
3) Defnyddio'r cyfrifiadur ar y beic
I ddefnyddio'r beiciau bydd yn rhaid i chi gofrestru ar-lein yn gyntaf. Mae'r broses gofrestru'n syml iawn ac unwaith y byddwch wedi gwneud hynny gallwch gasglu a gollwng beiciau ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos yn unrhyw un o'r chwe gorsaf sydd mewn lleoliadau cyfleus ar hyd y bae. Gallwch hefyd ddefnyddio cynlluniau nextbike eraill sydd ar gael mewn 25 o wledydd ar draws y byd.
Mae llogi'r beiciau'n fforddiadwy hefyd. Os ydych chi'n defnyddio'r beiciau'n achlysurol gallwch dalu wrth i chi feicio o £1, ond gall pobl sy'n defnyddio'r beiciau’n fwy aml gofrestru ar gyfer tanysgrifiadau blynyddol neu fisol, sy'n golygu gallwch feicio am y 30 munud gyntaf am ddim a llogi beic am ddiwrnod cyfan am £5 yn unig.